Fe’n genir ni oll gyda’r goleuni ynom ni. Dychmygwch oleudy sy’n llewyrchu a disgleirio. Mae’r golau nerthol hwn yn goelcerth o bositifrwydd. Yn sgîl hyn, daw ffawd a’i phelydrau hyfryd i dywynnu drosoch chi a phopeth a ddaw i’ch cwrdd.
Yn ystod ein bywydau, fodd bynnag, gall ein profiadau adael cymysgedd o emosiynau/teimladau cythryblus o’u hôl, ac nid pawb sy’n medru dod atynt ei hunain yn iawn neu ymdrin â’r pwysau. Mae’r goleuni disglair hwn y tu mewn i ni’n gwanhau nes ei fod prin fwy na fflam egwan ar gannwyll. Gall hyn beri digalondid sy’n effeithio’n ddwys ar bob agwedd o’n bywydau. Efallai eich bod wedi eich dal mewn cylch dieflig, lle mae anobaith yn teyrnasu dros waith, perthnasau, iechyd. A does dim ots beth yr ydych yn ei wneud, mae’r teimlad o rwystredigaeth yno o byth a beunydd.
Rydw i’n gweithio gyda bodau ysbrydol ac Angylion i ail-gynnau’r goleuni a’r ffyddiogrwydd ynoch chi.
Mi allaf i eich rhoi ar y trywydd cywir a’ch cynorthwyo ag unrhyw iachau sydd ei angen. Ond, alla i ddim byw eich bywyd drosoch chi. Cofiwch mai’ch bywyd chi ydi hwn, ac mai eich cyfrifoldeb chi yw creu’r newidiadau yr ydych chi am eu gweld.
Rydym yn cynnig gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, Saesneg a’r BSL (Iaith Arwyddion Prydain).
Diolch am ymweld â’n gwefan. Gobeithiwn i chi ganfod yr hyn yr oeddech eisiau. Os na wnaethoch, mae croeso i chi gysylltu â ni.
